Newyddion Gwirfoddolwyr – Tayla & Steph

Helo!

Tayla ydw i, a dyma Steph. Mae’r ddwy ohonon ni’n gweithio gyda The Wallich ac roedden ni’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn y Barri.

Diolch i Gwerth yn y Fro a Mack Events, fe wnaethon ni ddod o hyd i’r cyfle perffaith – gwirfoddoli fel casglwyr sbwriel yng ngŵyl deyrnged Glaston-Barry eleni!

Mae Steph yn hyrwyddwr casglu sbwriel lleol, a chan fod y ddwy ohonon ni’n angerddol am gadw ein cymuned yn lân ac yn ddiogel, roedd hon yn rôl ddelfrydol i ni.

Cawson ni ddiwrnod anhygoel! Cawson ni fwynhau’r gerddoriaeth fyw – ein ffefrynnau oedd The Eminem Show, AC/DC a Fleetwood Shack – i gyd wrth roi rhywbeth yn ôl.

Fe wnaethon ni gwrdd â chymaint o bobl gyfeillgar a wnaeth i ni deimlo’n gartrefol, a daethon ni o hyd i ychydig o eitemau diddorol ar hyd y ffordd, gan gynnwys allweddi plastig, hen ddarn arian ffranc, a llawer o gemau rhydd.