Tu Hwnt i Amser

Darllenwch am sut mae Gwirfoddolwyr Pod Bwyd Penarth nid yn unig yn rhoi o’u hamser, ond yn ddiweddar hefyd wedi rhoi eu gwobrau i eraill yn ein Hymgyrch ‘Rhoddwch Ymlaen’ ddiweddaraf.

Mae Pod Bwyd Penarth ei hun wedi gwasanaethu’r trigolion lleol ers 2021, ac heb os mae wedi bod yn adnodd gwerthfawr i deuluoedd yr ardal.

Mae ymroddiad gwirfoddolwyr yn dyst i’r effaith gadarnhaol y mae’r Pod wedi’i chael ar y gymuned.

Mae gweld y gwahaniaeth mae’r Pod yn ei wneud yn dwysau awydd y gwirfoddolwyr i ymestyn y caredigrwydd hwn i eraill, fel teuluoedd yn yr hosbis.

Roedd Isobel, Viv a Jill, tri sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers amser maith ym Mhodiau Bwyd Penarth, yn frwdfrydig dros ymuno â Gwerth yn y Fro, roeddent yn awyddus i ennill gwobrau am eu hamser, ond o’r cychwyn cyntaf, roeddent yn benderfynol o gyfrannu eu gwobrau i bobl eraill.

Wrth i’r gwragedd drafod pwy fyddai’n elwa fwyaf o’r gwobrau hyn fe benderfynon nhw mai’r teuluoedd yn Hosbis Tŷ Hafan yn Sili fyddai’r derbynwyr delfrydol.

I fynd ar drywydd y cynnig hael hwn, fe wnaethom estyn allan at staff Hosbis Tŷ Hafan a rhannu syniad y gwragedd o drosglwyddo eu gwobrau i’r teuluoedd. Cafodd tîm yr hosbis eu cyffwrdd gan y cynnig ac egluron nhw cymaint y byddai’r gwobrau hyn yn ei olygu i’r teuluoedd oedd yn mynychu’r hosbis gyda’u plant. Fe wnaethon nhw dderbyn y cynnig yn frwd, ac hefyd estyn gwahoddiad i’r tair ymweld â’r hosbis yn bersonol, i gyflwyno’r gwobrau, a mynd ar daith o amgylch y cyfleuster.

Cyflwynodd y gwirfoddolwyr ddetholiad gwych o wobrau, o goffi a sesiynau golchi ceir am ddim i eitemau harddwch, deunyddiau ymolchi, hadau ac eitemau babanod. Esboniodd y staff faint y byddai hyn i gyd yn helpu teuluoedd a sut y gallai’r hadau a’r teclynnau bwydo adar gael eu defnyddio gan eu gwirfoddolwyr eu hunain yng ngerddi’r hosbis.

Erbyn hyn, roedd y syniad o anfon rhoddion ymlaen i bob eraill wedi credu cylch cyflawn, a chreu cysylltiad pwysig rhwng gwirfoddolwyr Pod Bwyd Penarth a theuluoedd Tŷ Hafan, gan bwysleisio rym haelioni a chefnogaeth gymunedol.

 

Mae’r weithred garedig o anfon rhoddion ymlaen at bobl eraill yn dangos yr effaith fawr all ddod o un weithred hael.

Hoffem ddiolch unwaith eto i’r holl bartneriaid sy’n cefnogi Gwerth yn y Fro.  Heb eich haelioni parhaus, ni fyddai prosiectau fel hyn yn bosibl.

 

 

Mae gweld gwirfoddolwyr fel y rhai ym Mhod Bwyd Penarth yn rhoi rhywbeth yn ôl drwy roi o’u hamser a hefyd drwy gyfrannu eu gwobrau haeddiannol i bobl eraill. Mae eu haelioni, wrth ddewis helpu teuluoedd yn Hosbis Tŷ Hafan yn Sili, yn dyst i ysbryd cymunedol a thosturi.