Fe wnaethon ni gwrdd â Rachael o Elusen LIFE i gyflwyno’r Chromebook iddi ei hennill trwy ein cystadleuaeth yn ddiweddar, yn dathlu ein pen-blwydd cyntaf.
Roedd yr elusen wrth eu bodd o fod wedi ennill y Chromebook a rhannodd ychydig o eiriau o ddiolch.
“Mae LIFE (Cysylltu Teuluoedd Cynhwysol trwy Ddigwyddiadau Cymdeithasol) wrth eu bodd o fod wedi ennill y Chromebook gwych hwn yng nghystadleuaeth pen-blwydd cyntaf Gwerth yn y Fro yn ddiweddar.
Mae cyfran fawr iawn o’n cyfathrebu â’n haelodau yn cael ei wneud ar-lein a nawr gyda’r ddyfais ddigidol fodern hon, byddwn yn gallu bod yn fwy effeithlon oherwydd ei gyflymder perfformiad a pharhau i gyfathrebu â’n haelodau ymhell i’r dyfodol”.
Hoffai LIFE ddiolch i Gwerth yn y Fro am gynnig y gystadleuaeth a chynnig gwobr mor wych. Hoffem hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i roi pleidlais ar ein rhan, mae eich cefnogaeth barhaus bob amser yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
Hoffai Gwerth yn y Fro ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i enwebu yn ystod ein cystadleuaeth Chromebook. Roedd mor galonogol darllen yr enwebiadau ar gyfer pobl sy’n gwneud cymaint wrth gefnogi eraill.
