Cyfweliad Gyda Matt o Mack Events – Glastonbarry

Bob haf mae’r cyffro’n cynyddu wrth i’r babell fawr ymddangos ym Mharc Romilly, a phan fydd y babell honno’n ymddangos, rydym yn gwybod ei bod hi bron yn amser…… Mae Gŵyl Deyrnged GlastonBARRY yn dod i’r dref!

Mae’n benwythnos y mae’r tîm yn Gwerth yn y Fro yn edrych ymlaen yn fawr ato, felly penderfynwyd dal i fyny gyda threfnydd y Digwyddiadau, Matt Blumberg, i gael gwybod mwy amdano, yr ŵyl ac ychydig mwy am y manteision a ddaw yn sgil digwyddiad mor fawr i’r gymuned leol.

 eo Matt, yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i chi am ddewis cefnogi Gwerth yn y Fro am ail flwyddyn a chynnig tocynnau pellach ar gyfer digwyddiad 2024. Roedd y tocynnau y gwnaethoch eu cynnig i ni y llynedd yn caniatáu i wirfoddolwyr a’u teuluoedd fwynhau diwrnod llawn hwyl na fyddent efallai wedi cael cyfle i’w wneud fel arall, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

Helo, dim problem, mae’n wych meithrin perthynas â sefydliad lleol gwerthfawr a gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i wirfoddoli yn eu cymuned leol.

 

 

Ar ôl cynnal digwyddiad mor llwyddiannus dros y 10 mlynedd diwethaf, rwy’n tybio bod eich cefndir ym maes Rheoli Digwyddiadau?

 A dweud y gwir, roeddwn i’n athro cynradd am 8 mlynedd cyn i ni ddechrau cynnal y digwyddiadau. Dwi bob amser wedi bod yn gerddor brwd ac wedi gigio mewn nifer o fandiau ers i fi fod yn fy arddegau. Roedd gen i ychydig o brofiad o redeg gigs bach, ac roeddwn wedi chwarae mewn llawer o wyliau, digwyddiadau a gigs lleol, ond pan ddychwelodd fy nghefnder Ross o weithio i ffwrdd yn 2013 fe benderfynon ni fentro a chynnal ein digwyddiadau ein hunain.

Roedd y ddau ohonom yn falch iawn o ddod o’r Barri, ac roedd y ddau ohonom yn teimlo nad oedd unrhyw beth cyffrous yn digwydd yn ein tref enedigol. Roedd yn awyddus i gynnal digwyddiadau ar ôl ciniawau gyda phêl-droedwyr ac roedd eisoes wedi bod mewn trafodaethau gyda chyn-chwaraewr Lerpwl, Jan Molby. Roedd gen i syniad i gynnal gŵyl gerddoriaeth o’r enw ‘GlastonBARRY’ ond roedd yn syniad annelwig iawn bryd hynny. Fe benderfynon ni ymuno a rhoi cynnig arni, dyna sut ddechreuodd Mack Events.

Fe wnaethon ni gwpl o ddigwyddiadau ar ôl ciniawau gyda chyn-bêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi enwog i ddechrau, ond cyn gynted ag y gwnaethon ni gyhoeddi digwyddiad cyntaf GlastonBARRY, Medi 2013, roedden ni’n gwybod ein bod ni wedi dechrau rhywbeth arbennig iawn. Roedd yr ymateb yn anhygoel a gwerthodd y digwyddiad allan yn gyflym iawn.

Mae’r ŵyl wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Roedd gennym tua 600 o westeion y flwyddyn gyntaf honno, ac yn 2023 fe wnaethom groesawu ychydig dros 17,000 i Barc Romilly dros y penwythnos. Ers hynny rwyf wedi mynd yn ôl i’r coleg, wedi cwblhau nifer o gyrsiau gwahanol ac, yn araf, wedi dod yn fwy cymwys a gwybodus, ond pan ddechreuon ni gyntaf, i fod yn hollol onest, roedd y ddau ohonom yn arbrofi! 

  

O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth am GlastonBARRY?

 Dwi ddim yn siŵr o ble ddaeth y syniad gwreiddiol, ond o’n i wastad wedi tynnu coes am gynnal digwyddiad o’r enw GlastonBARRY o’r dyddiau cynnar o chwarae fel cerddor.

Pan ddywedodd fy nghefnder Ross wrtha i ei fod yn ystyried cynnal nosweithiau gyda phêl-droedwyr a dechrau cwmni digwyddiadau, dywedais wrtho am y syniad GlastonBARRY a phenderfynon ni ymuno a rhoi cynnig arni! Roedden ni’n meddwl bod yr enw’n ddoniol ac yn ysgafn yn wreiddiol, ond rwy’n credu bod yr enw wedi bod yn rhan fawr o’n llwyddiant wrth i bobl ei adnabod a siarad amdano.

  

Y llynedd oedd deng mlwyddiant GlastonBARRY. Faint ydych chi wedi ei weld yn newid ac yn datblygu dros y deng mlynedd hynny?

 Mae wedi newid yn sylweddol! Rydym wedi bod trwy uchafbwyntiau anhygoel a chyfnodau heriol dros y 10 mlynedd diwethaf!

Nid oeddem erioed wedi rhagweld y byddai’n cyrraedd lle y mae heddiw. A bod yn onest, ar y dechrau, ychydig o hwyl oedd e, ochr yn ochr â’n swyddi llawn amser. Roeddwn i’n athro ac roedd Ross yn beiriannydd awyrofod. Gwelsom botensial ei wneud fel busnes llawn amser ym mlwyddyn 2 neu 3, gadael ein swyddi a dod yn drefnwyr digwyddiadau llawn amser.

Roedd pethau’n mynd yn rhyfeddol o dda tan 2019, roedd y busnes wedi tyfu’n ddramatig ac rwy’n credu yn 2019 ein bod wedi croesawu tua 12,000 o westeion dros y penwythnos ac wedi lansio ein digwyddiad GlastonBARRY Juniors, a oedd yn llwyddiant ysgubol hefyd.

Pan darodd Covid yn 2020, daeth y cyfan i stop a rhoi’r holl fusnes mewn perygl. Roeddent yn ddwy flynedd anodd iawn! Daethom yn agos iawn at fethu cwpl o weithiau, ac roedd gennym benderfyniadau anodd i’w gwneud.

Penderfynodd Ross symud ymlaen yn ystod blynyddoedd Covid, symudodd i ffwrdd o’r Barri a dechrau gyrfa newydd i lawr yng Ngorllewin Cymru. Fe wnes i gario ‘mlaen gyda rhai o’r tîm yr oeddwn wedi’i ddatblygu dros y 10 mlynedd diwethaf, ond roedd digwyddiad 2022 yn anodd iawn. Dyma oedd fy mlwyddyn gyntaf heb Ross ac roedd nifer o anawsterau yn y cefndir.

Daethom drwyddi, ond doedd e ddim yn hwyl! Yn 2023, fe wnes i ailstrwythuro ychydig, dod â ffrindiau a theulu dibynadwy i mewn, ac aeth pethau’n llawer mwy esmwyth eto!

Rydym bellach yn ôl ar y llwybr iawn ac yn edrych ymlaen at 2024!

  

Rwy’n dychmygu bod hyn wedi cael effaith fawr ar yr economi leol?

 Ydy, mae llawer o fusnesau lleol yn elwa o’r digwyddiad – mae gwestai, tai llety, tafarndai, bwytai, tacsis, caffis i gyd yn llawn ac yn gwneud yn rhyfeddol o dda. Mae hyd yn oed y trinwyr gwallt a’r artistiaid colur yn cynnig tatŵs gliter a phlethu gwallt yn y cyfnod cyn y digwyddiad.

Rydym wedi cael adborth rhagorol gan fusnesau lleol a thrwy ddefnyddio cyfrifwr effaith economaidd rydym yn amcangyfrif bod y digwyddiad wedi dod â thua £1.8m i mewn i’r economi leol yn 2023.

Rydym wedi mynd â hyn gam ymhellach nawr, ac ym mis Rhagfyr 2022 fe ddechreuon ni COMET CIC (www.cometcic.com) cwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw. Rydym eisiau creu digwyddiad GlastonBARRY ymylol fydd o fudd i lawer mwy o’r tafarndai / clybiau a lleoliadau cerddoriaeth lleol yn ogystal ag annog pobl ifanc leol i fynd i mewn i gerddoriaeth, ac annog pobl i siopa’n lleol.

Rydym mewn trafodaethau ar gyfer prosiect mawr yr haf nesaf yr ydym yn gobeithio ei gyhoeddi’n fuan.

 

Pryd mae cynllunio ar gyfer GlastonBARRY 2024 yn dechrau?

 Dechreuodd cyn y digwyddiad yn 2023! Mae wedi dod yn swydd llawn amser nawr, rydym yn dechrau edrych ar noddwyr a pherfformwyr cyn cynnal digwyddiad eleni ac yna’n anelu at gael y tocynnau allan yn syth ar ôl y digwyddiad. Mae pethau’n prysuro wedyn, mae wedi mynd yn weithrediad mawr ac mae gennym dîm cymharol fach o hyd sy’n gwneud yr holl drefnu, felly mae’n brysur iawn!

 

Mae’n rhaid bod cynnal digwyddiad mor llwyddiannus yn dibynnu ar garedigrwydd gwirfoddolwyr. A fyddwch chi’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer digwyddiad GlastonBARRY 2024?

 Byddwn, rydym bob amser yn croesawu gwirfoddolwyr yn ein digwyddiadau a new ein bod wedi ffurfio partneriaeth gyda Gwerth yn y Fro, gallant hawlio gwobrau am eu hamser – pryd o fwyd, saethyddiaeth, golchi’r car neu goffi am ddim. Mae’n gymhelliant gwych i gymryd rhan mewn prosiect cymunedol ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn un o’n digwyddiadau, rydym yn eich annog i gysylltu â ni drwy’r wefan (www.mackevents.com)

 

Pa fath o rolau gwirfoddoli fyddwch chi’n gofyn i bobl eu cyflawni?

 Mae’n dibynnu ar eu harbenigedd a’u cefndir. Yn y gorffennol rydym wedi cael myfyrwyr ifanc a phobl wedi ymddeol sy’n chwilio am rywfaint o brofiad ymarferol mewn fideograffiaeth / ffotograffiaeth / sain a goleuo / rheoli llwyfan. Ond hefyd y pethau ymarferol fel casglu sbwriel / rheoli meysydd parcio a stiwardio. Mae ‘na ystod eang o bethau’n mynd dros y penwythnos felly rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb. Dwi’n siŵr y gallwn ffeindio rhywbeth sy’n addas i chi!

 Wnewch chi ein hatgoffa sut y gallwn brynu tocynnau ar gyfer GlastonBARRY 2024?

 Gallwch ddarganfod popeth am ein digwyddiadau a phrynu tocynnau yn www.glastonbarry.com