Ynys Echni

Ebost: sarah.morgan5@cardiff.gov.uk

Ynys Echni

Mae Ynys Echni yn warchodfa natur ac yn safle o dirnodau hanesyddol, 4 milltir oddi ar arfordir y Barri. Nod prosiect Ynys Echni yw dod â’r ynys i gymunedau nad ydynt efallai yn cael cyfle i ymweld â hi, drwy weithdai diddorol a rhyngweithiol mewn ysgolion a hybiau cymunedol.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i ysbrydoli pobl ifanc a chymunedau drwy adrodd straeon Ynys Echni. Byddwch yn arwain gweithdai sy’n seiliedig ar ein hanes adeiledig anhygoel a’n hymdrechion i warchod y bywyd gwyllt anhygoel rydym yn rhannu’r ynys ag ef. I gofrestru eich diddordeb neu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth, e-bostiwch Sarah: sarah.morgan5@caerdydd.gov.uk
I ddarganfod mwy am Ynys Echni a’n gwaith, ewch i’n blog: https://flatholmisland.wordpress.com/ ac edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol: Facebook @Flatholm, Twitter @Flatholmers neu Instagram: @FlatHolmIsland.
Diolch yn fawr iawn i’n noddwyr yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac i’r rheini sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, sy’n gwneud ein holl waith yn bosibl.

Gwefan
Instagram