
Clwb Rotari y Barri a’r Cylch
Ebost: barryrotaryclub@outlook.com
Ffon: 07533 048620
Clwb Rotari y Barri a’r Cylch
Mae Clwb Rotari’r Barri a’r Cylch wedi bod yn weithgar yng nghanol y gymuned ers 1937. Mae’r Clwb yn ymwneud â llawer o weithgareddau’n lleol ac mae hefyd yn anfon cymorth dramor mewn cyfnodau o angen.
Mae gan y clwb aelodaeth gynyddol ac mae’n awyddus i barhau i feithrin cysylltiadau ag unigolion a’r ochr gorfforaethol. Cynhelir cyfarfodydd busnes ar ail ddydd Iau bob mis yng Nghanolfan Gymunedol Parc Victoria a noson gymdeithasol ar bedwerydd dydd Iau’r mis, a gynhelir mewn amrywiol leoliadau o amgylch y Dyffryn.
Mae rhai o’r prosiectau cyfredol y mae’r Clwb yn ymwneud â nhw yn cynnwys y Ffair Haf, a gynhelir yn flynyddol ym mis Awst ym Mharc Romilly a’r Caffi Cof newydd, sef digwyddiad wythnosol a gynhelir yng Nghanolfan Gymunedol Parc Victoria lle mae pobl â Dementia a phroblemau cof eraill yn dod ynghyd â’u gofalwyr ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel crefftau, gemau bwrdd, gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau, gwrando ar siaradwyr ac ati. Darperir lluniaeth hefyd. Mae gennym gysylltiadau cryf hefyd â Banc Bwyd y Barri ac rydym wedi rhoi cyflenwadau sydd eu hangen yn fawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae prosiectau newydd yn cael eu trafod bob amser, gydag aelodau’n ymdrechu i ddod o hyd i syniadau newydd i helpu yn y gymuned a chodi arian at achosion teilwng.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Glwb Rotari’r Barri a’r Cylch a’r prosiectau a gynhelir gennym, neu os ydych chi’n meddwl yr hoffech chi ymuno â ni, gallwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu mae croeso mawr i chi ddod i un o’n cyfarfodydd a gynhelir ar yr ail ddydd Iau o bob mis. Mae gan bawb sgil, p’un a ydych chi’n teimlo yr hoffech chi redeg prosiect newydd neu helpu allan ar stondin mewn digwyddiad codi arian. Croeso i chi gyd!
