Blodeuo gyda’i gilydd: Gardd Buttrills yn dod â byd natur a chymdogion yn fyw

Yn ddiweddar, cawsom y pleser o ddal i fyny ag un o’n gwirfoddolwyr ymroddedig, Deryn, ac roeddem yn falch iawn o gyflwyno rhodd hael o hadau blodau gwyllt iddi gan Wild Wales Seeds i gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Garddio eleni.


Mae Deryn wedi byw yn ardal Buttrills yn y Barri ers 2019 ac mae bob amser wedi meithrin cariad at arddio. Yn agos at ei chartref mae darn o dir sydd angen sylw y mae hi a’i chyd-wirfoddolwyr wedi’i drawsnewid gyda gofal a chreadigrwydd. Trwy gofleidio
harddwch naturiol dant y llew a glaswellt hir, maent wedi creu
hafan groesawgar i beillwyr a bwystfilod bach. Mae planhigion
bywiog bellach yn dod â lliw a swyn, ac mae’r coed eisoes yn
cynhyrchu ffrwythau, gan gynnwys gellyg ac eirin.

Myfyriodd Deryn ar sut mae’r trawsnewidiad hwn wedi helpu i ddod â’r gymuned leol yn agosach at ei gilydd.

‘Pan wnaethon ni ddechrau’r ardd bywyd gwyllt ym mis Hydref
2023, gyda chymorth rhodd o ddeunydd gan Cadwch Gymru’n
Daclus – dechreuodd cymdogion gwrdd â’i gilydd. Fe wnaethon ni
fwynhau’r adeiladu, plannu a sgwrsio. Cyflwynwyd llawer o
rywogaethau, brodorol a chyltifarau, sydd o fudd i fyd natur a ni. Nid yw’r glaswellt (9 math) na’r planhigion eraill yn cael eu torri. Maen nhw’n darparu cynefin amhrisiadwy i anifeiliaid di-asgwrn cefn.


Dyma wenynen yn cael siesta haeddiannol’


‘Mae’r ardal fach hon yn destun balchder ysgafn i bob un ohonon ni,
gyda’r fainc las a’r goeden geirios yn darparu man cyfarfod hyfryd. Ac
rwy’n gwenu pan fyddaf yn gweld gyrwyr fan yn arafu i gael golwg… Yn
aml bydd pobl yn stopio, yn edmygu ac yn holi. Mae rhywbeth wedi
bod yn blodeuo drwy’r flwyddyn diolch i roddion meddylgar gan
gymdogion, gan gynnwys coed ffrwythau. Mae’r prosiect yn dal i fod yn ifanc, ond mae wedi annog cymdogion i ymuno drwy blannu blodau a phlanhigion mewn gerddi ac ar falconïau ar hyd Buttrills Walk’.

‘Nid yw’n cymryd llwyth o ymdrech, rhywfaint o gasglu sbwriel a rhywfaint o sylw tymhorol i ddod â gwên, a rhyfeddod’…

Diolch i brosiectau fel hyn, mae trigolion yn gallu mynd allan a chwrdd â phobl na fyddent fel arall wedi siarad â nhw, ac mewn rhai achosion, datblygu cariad newydd at ein hamgylchedd naturiol a dysgu amdano ar yr un pryd.

Diolch!