Mae bob amser yn bleser cefnogi gwirfoddolwyr sy’n dewis rhag-roi eu gwobrau, a doedd ein hymgyrch Rhag-roi Rhoddion ddim yn eithriad.
Roedd Jill a Viv wedi cronni eu gwobrau gwirfoddoli Gwerth yn y Fro a phenderfynu’n hael eu trosglwyddo i staff, gwirfoddolwyr, a theuluoedd yn Hosbis Marie Curie ym Mhenarth.
Wedi’u hysbrydoli am flynyddoedd lawer gan yr ymroddiad a’r tosturi a ddangoswyd gan y rhai sy’n darparu gofal a chefnogaeth anhygoel i gleifion yr hosbis a’u hanwyliaid, roedd Jill a Viv yn dymuno ychwanegu ychydig o sglein ychwanegol y Nadolig i bawb.
Hoffem estyn ein diolch diffuant i staff yr hosbis am eu croeso cynnes ac am roi’r cyfle i ni rannu’r gwobrau.

