
Y Man Ymgynnull
Ffon: 01446 750700
Y Man Ymgynnull
Mae’r Gathering Place yn Sain Tathan yn ddolen gymunedol wych rhwng yr eglwys a phobl yn yr ardaloedd o’i chwmpas. Rydym yn gartref i ddigonedd o grwpiau a dosbarthiadau i bobl leol, tra’n cadw ymdeimlad cysurus o addoli yn ein gofod. Mae The Gathering Place yn adeilad gwych ac amlbwrpas. Nid yn unig y mae’n eglwys Fethodistaidd, ond yn ganolfan gymunedol sy’n cynnig llawer iawn o le ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ac achlysuron o Zumba a dawnsio llinell, i chwarae meddal a phartïon! Rydym yn llogi’r neuadd a’r ystafelloedd cyfarfod ar gyfer amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau preifat ac elusennol.
Gwirfoddolwyr – I weithio yn ein caffi cymunedol. Rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn helpu unwaith yr wythnos, coginio rholiau cig moch, gwneud paninis, clirio byrddau, golchi llestri, gweithio y til a chymryd stoc. Mae’r caffi ar agor 8-2 ar ddydd Mercher yn unig.
