
Llyfrgelloedd y Fro
Ffon:
Ebost:
Llyfrgelloedd y Fro
Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Bro Morgannwg
Rydym yn darparu’r gair ysgrifenedig a llafar am ddim mewn sawl ffurf, o lyfrau corfforol i e-lyfrau, eSain, e-Gylchgronau ac ePapurau Newydd
Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, gan gynnwys mynediad at adnoddau ar-lein 24 awr o gartref.
Rydym yn darparu mynediad i’n casgliad astudiaethau lleol o ffotograffau i bapurau newydd, llawer o’r rhain ar-lein.
Rydym yn darparu rhaglen egnïol ac amrywiol o weithgareddau hamdden, diwylliannol a dysgu i blant ac oedolion, llawer mewn partneriaeth ag eraill a llawer yn ystod gwyliau ysgol.
Rydym yn darparu mynediad am ddim i’r rhyngrwyd trwy gyfrifiaduron personol y llyfrgell a Wi-Fi cyhoeddus ac mae ein staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn cynorthwyo cwsmeriaid heb sgiliau digidol a’r rhai sy’n dal i’w datblygu.
Rydym yn gwneud gwaith allgymorth ac yn hyrwyddo gwasanaethau mewn llawer o wahanol leoliadau ar draws y Fro yn ystod y flwyddyn; a daw llawer o bartneriaid atom i hyrwyddo eu gwasanaethau drwy lyfrgelloedd
Rydym yn darparu man diogel a chyfforddus ar gyfer astudio, ar gyfer cyfarfodydd, ar gyfer dysgu neu dim ond ar gyfer ymlacio
Rydym yn darparu bagiau ailgylchu a deunyddiau eraill i gwsmeriaid
Mathau o Wirfoddolwyr Angenrheidiol:
