Marie Curie

Ebost: Rebecca.Stephenson@mariecurie.org.uk

Ffon: 07525 249285

Marie Curie

Marie Curie yw darparwr annibynnol mwyaf gofal diwedd oes a darparwr elusennol mwyaf o welyau gofal hosbis yng Nghymru.

Yn ogystal â nyrsio a gofal hosbis arbenigol, fe welwch chi wirfoddolwyr Companion a siopau elusen Marie Curie ledled y wlad. Rydym hefyd yn ymgyrchu polisi a ni yw’r ariannwr elusennol mwyaf ar gyfer gwaith ymchwil i wella gofal diwedd oes.

Gofal hosbis yn y cartref
Mae tua 150 o Nyrsys Marie Curie yn gweithio yng Nghymru, yn gofalu am tua 2,400 o bobl â salwch terfynol a’u teuluoedd yn eu cartrefi bob blwyddyn.

Hosbisau
Mae Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro, ym Mhenarth, yn gofalu am tua 1,000 o bobl bob blwyddyn, gan gynnwys pobl sy’n aros yn yr hosbis a’r rhai sy’n dod i mewn am y dydd i ddefnyddio gwasanaethau’r hosbis.

 

Gwasanaethau dydd
Mae Gwasanaeth Dydd Marie Curie Cymru ar gael i unrhyw oedolyn y mae salwch terfynol yn effeithio arno. Nid oes rhaid i chi fod yn aros yn ein hosbis, nac yn defnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau i dderbyn cymorth.

Gwefan
Instagram
YouTube