Llysgenhadon Chwaraeon y Fro

Ebost: astevens@valeofglamorgan.gov.uk

Llysgenhadon Chwaraeon y Fro

Mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yn ceisio datblygu arweinwyr ifanc a gwirfoddolwyr drwy roi cyfrifoldeb iddynt fel llysgenhadon dros weithgareddau allgyrsiol mewn ysgolion a chlybiau.

RÔL Llysgennad Ifanc yw:

Cynyddu cyfranogiad a ffyrdd iach o fyw mewn ysgolion

• Bod yn fodel rôl ac yn eiriolwr dros weithgarwch chwaraeon

• Bod yn llais pobl ifanc ar Addysg Gorfforol mewn ysgolion a chymunedau

Ymgysylltu â disgyblion iau a allai gael trafferth cymryd rhan mewn gweithgareddau
Ar hyn o bryd mae gennym Lysgenhadon Ifanc ar draws y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn y Fro. Maent yn dechrau eu taith ym mlwyddyn 9 ac yn parhau ar y llwybr nes iddynt adael yr ysgol. Mae rhai o’r llysgenhadon bellach yn cael eu cyflogi fel gweithredwyr chwaraeon achlysurol gyda’n tîm.

Gwefan
Instagram