Llyfrgell a Chanolfan Gweithgareddau Dinas Powys

Ffon: 029 2051 2556

Ebost: info@dinaspowyslibrary.wales

Llyfrgell a Chanolfan Gweithgareddau Dinas Powys

Daeth ein llyfrgell yn elusen yn 2016, yn cael ei rhedeg gan y gymuned leol a’i sefydlu gyda’r teitl Llyfrgell a Chanolfan Gweithgareddau Dinas Powys – DiPLAC. Llwyddwyd i gael grant oedd yn ein galluogi i ail-gyflunio’r adeilad – newidiwyd peth o’r gofod a ddefnyddiwyd ar gyfer llyfrau i fod yn gaffi ac yn Ystafell Weithgaredd. Mae’r rhain yn helpu i ddod ag incwm y mae mawr ei angen i dalu ein costau parhaus, megis biliau cyfleustodau ac yswiriant. Rydym yn dal i dderbyn llyfrau newydd o’r Fro a gallwn fenthyg llyfrau o’r llyfrgelloedd eraill. Rydym hefyd yn cael cymorth a hyfforddiant gan ddau Lyfrgellydd Cymorth Peripatetig, sy’n teithio o gwmpas rhwng y pum llyfrgell gymunedol ym Mro Morgannwg.