
Gwarchod Cymdogaeth
Gwarchod Cymdogaeth
Beth yw Gwarchod Cymdogaeth?
Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn sefydliad elusennol sy’n rhedeg yn genedlaethol ledled Cymru a Lloegr. Dyma’r mudiad atal trosedd mwyaf yng Nghymru a Lloegr gyda dros 2.3 miliwn o aelodau. Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn canolbwyntio ar atal trosedd a gwneud newidiadau cadarnhaol i’r gymuned trwy ddatblygu partneriaethau gwerthfawr gydag aelodau o’r cyhoedd a’r heddlu. Yn ogystal, nod Gwarchod y Gymdogaeth yw lleihau trosedd drwy uno cymunedau a dod â phobl newydd ynghyd.
Mae enghreifftiau o waith y mae Gwarchod Cymdogaeth yn ei wneud yn cynnwys:-
Sefydlu Gwylfa yn eu stryd
Edrych allan am eu cymydog
Casglu sbwriel
Rhannu unrhyw wybodaeth trosedd sy’n digwydd yn yr ardal.
Cydgysylltu â Gwarchod Cymdogaeth Bro Morgannwg, Bro Ddiogelach a’r Heddlu.
Gwybodaeth cyswllt
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i helpu Gwarchod y Gymdogaeth gyda gwahanol swyddi, cysylltwch â’r canlynol;
Ffôn: 07505363532
E-bost: VOGNW@outlook.com
Ewch i wefan GIG Cymru: www.Ourwatch.org.uk
