
Dysgu Cymraeg
Ffon: 01446 730402
Dysgu Cymraeg
Ydych chi’n siarad Cymraeg? A allwch chi roi ychydig o amser i helpu dysgwr i ddatblygu ei hyder?
Rydym yn chwilio am siaradwyr Cymraeg a dysgwyr profiadol i fentora dysgwyr sydd wedi cyrraedd lefel ganolradd neu uwch. Mae’r dysgwyr hyn yn chwilio am gyfle i ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Dim angen gramadeg dim ond hen sgwrs dda. Trwy gyfarfod ag eraill, gallant ddysgu rhywfaint o dafodiaith leol a dod i wybod am gyfleoedd eraill i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ardal.
Mae’r cytundeb am 10 awr. Gellir gwneud hyn fodd bynnag mae’r pâr yn cytuno e.e. 5 sesiwn dwy awr neu 10 sgwrs dros baned am awr.
Awgrymir cyfarfod mewn caffi neu barc cyhoeddus. Mae rhai teithiau i weithgaredd Cymraeg fel y theatr neu i weld band hefyd yn gweithio’n dda.
Os ydych chi eisiau helpu’r Gymraeg i ffynnu yn y Fro cysylltwch â ni
