Dewis Cymru

Dewis Cymru

Dewis Cymru yw Y lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich lles – neu eisiau gwybod sut y gallwch helpu rhywun arall.

Nid oes unrhyw ddau berson yr un peth ac mae llesiant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Felly mae Dewis Cymru yma i’ch helpu chi i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Pan fyddwn yn siarad am eich llesiant, nid dim ond eich iechyd yr ydym yn ei olygu. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, cadw’n heini, cael hwyl, mynd allan, a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Mae gennym ni wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, ac mae gennym ni hefyd wybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi a’r rhai sy’n bwysig i chi.

Dewis Cymru yw eich cyfeiriadur lleol o wasanaethau iechyd a lles ac mae yma i’ch helpu.

Mae cyfoeth o wasanaethau gwych ym Mro Morgannwg sy’n anelu at eich helpu i fyw eich bywyd gorau. Mae gan y Fro un o’r nifer uchaf o wasanaethau a restrir yng Nghymru gyfan.

Nid oes unrhyw ddau berson yr un peth a gall lles olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Mae yna grwpiau cymdeithasol i blant ac oedolion o gorau i glybiau cinio, dosbarthiadau dawns i bob oed, clybiau llyfrau a grwpiau ffitrwydd ar gyfer pob gallu.

Gall Dewis hefyd eich cysylltu â chymorth i gael yr help rydych ei eisiau. Gyda chyngor ymarferol ar gyfer cynllunio at y dyfodol, mae yna wybodaeth ar y ffordd orau o reoli eich arian a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Gelwir rhai o’r gwasanaethau a restrir yn Dewis Cymru yn wasanaethau ‘rheoleiddiedig’. Mae angen ‘cofrestru’ rhai o’r rhain gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Nod y gofyniad hwn yw sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn darparu gwasanaeth diogel o ansawdd da i’r bobl sy’n eu defnyddio.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gofal cymunedol a gwasanaethau preswyl i blant ac oedolion

Rydym yn eich annog i archwilio Dewis a dod o hyd i wasanaethau ar garreg eich drws. Darganfyddwch rywbeth sy’n gweithio i chi, hyd yn oed rhywbeth nad ydych erioed wedi’i ystyried.

Gwefan