Dal i fyny gyda’r gwirfoddolwraig Joan

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gymryd amser i ddal i fyny gydag un o’n gwirfoddolwyr gwych, a rannodd pa mor werthfawr y mae ei thaith wedi bod.

“Mae fy nghyfraniad gwirfoddoli personol i trwy Gasglwyr Sbwriel Llanilltud Fawr, gan fod yr amgylchedd a chadwraeth yn bwysig iawn i fi. Fel gwirfoddolwr Cadwch Gymru’n Daclus, rwy’n cael yr holl offer, y cymorth a’r yswiriant angenrheidiol sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau o’r un anian trwy gasglu sbwriel, i gyd wrth geisio mynd i’r afael â’r mater ehangach ynghylch pam mae cymaint o bobl yn meddwl bod sbwriel yn dderbyniol!

“Fel gwirfoddolwr, does neb yn disgwyl cael ei wobrwyo y tu hwnt i gyfrannu at y gymuned maen nhw’n byw ynddi. Ond, ym Mro Morgannwg, mae cyfle i fusnesau wobrwyo gwirfoddolwyr gyda chynhyrchion neu wasanaethau yn gyfnewid am oriau o wirfoddoli a gofnodwyd. Yn ddiweddar, rydw i wedi cael fy ngwobrwyo gyda choffi am ddim gan Fferm Forage, bag nwyddau ymolchi gan Morrisons, a chwistrell gobennydd lafant a sglein pren cwyr gwenyn gan Rhoose Point Remedies—tra’n rhoi cyfle i’r cwmnïau hyn hyrwyddo eu busnesau a dangos faint maen nhw’n gwerthfawrogi gwirfoddolwyr.

“Mae hyn ar gael trwy wefan ‘Gwerth yn y Fro’, lle mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd yn cael eu hysbysebu, gan roi cipolwg i ddarpar wirfoddolwyr ar weithgareddau a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw a sut i gysylltu.

“Felly p’un a ydych chi’n wirfoddolwr neu’n fusnes, beth am gymryd rhan? Does gennych chi ddim byd i’w golli – ac efallai llawer i’w ennill!”