Ysgol Y Deri

Ysgol Y Deri

Mae Ysgol y Deri yn ysgol ym Mhenarth ar gyfer plant a phobl ifanc 3-19 oed ag anghenion dysgu ychwanegol. O dan ein hambarél mae gennym ni hefyd Derw Newydd yn y Barri, ysgol ar gyfer disgyblion 11-16 oed ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.

Mae ein cwricwlwm yn seiliedig ar ddarparu cyfleoedd a chael gwared ar rwystrau. Fel rhan o hyn mae gennym bwyslais ar Yrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith. Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd lleoliad gwaith/gwirfoddoli er mwyn rhoi mynediad i ddisgyblion i’w cymuned leol, tra’n arddangos eu galluoedd a gwneud gwahaniaeth a rhoi yn ôl.