
Cyfeillion Digidol
Ffon:
Ebost: digitalbuddies23@gmail.com
Cyfeillion Digidol
Ydych chi’n ddeallus yn ddigidol?
Rydym yn datblygu Tîm Cyfeillion Digidol, i helpu Preswylwyr ledled Bro Morgannwg.
Nodau ac Amcanion
I helpu ein Tenantiaid a Phreswylwyr i ddefnyddio Ffonau Symudol, Tabled, Gliniadur, Cyfrifiaduron ac Argraffwyr.
I’w helpu i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael heddiw.
Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr i ymuno â’n tîm sydd â dealltwriaeth a gwybodaeth dda mewn offer digidol ac sy’n frwdfrydig wrth helpu ac addysgu eraill.
Gall hyn gynnwys:
Helpu i sefydlu ffôn symudol, tabled neu liniadur.
Creu cyfeiriad e-bost a sut i’w ddefnyddio.
Defnyddio’r Rhyngrwyd ar gyfer siopa, pori, hyd yn oed gwylio You-Tube
Gwneud posteri ar gyfer digwyddiadau / gwibdeithiau’r cynllun, cardiau (pen-blwydd, Nadolig)
Ffotograffiaeth a phrosiectau.
Dim ond ychydig o syniadau yw’r rhain, gan eich bod yn gwybod y gallai’r rhestr fod yn ddiddiwedd gyda’ch cymorth chi, gallwn ni i gyd wella ein gwybodaeth a’n sgiliau i helpu eraill.
Mae hyfforddiant llawn ar gael i loywi sgiliau a gwella hyder drwy Cymunedau Digidol Cymru. Bydd y rhain yn cael eu hariannu’n llawn felly heb unrhyw gost i chi’ch hun.
Ein hethos yw ‘Cefnogi Ein gilydd Trwy Ein Taith Dysgu Digidol’


