Cyfleoedd Hyfforddi
Rydym yn darparu nifer o gyfleoedd hyfforddi achrededig a heb eu hachredu i wirfoddolwyr sy’n rhan o Gwerth yn y Fro.
Cyfleoedd Hyfforddi

Hyfforddiant Hyrwyddwyr OpenLearn:
Dewch yn Hyrwyddwr OpenLearn a chefnogwch eraill ar eu taith ddysgu.
OpenLearn yw cartref dysgu ar-lein rhad ac am ddim gan Y Brifysgol Agored. Ar ein gwefan gallwch ddarganfod dros 1,000 o adnoddau gwahanol megis cyrsiau byr, erthyglau, gemau rhyngweithiol a fideos ar amrywiaeth eang o bynciau o Wlad Groeg yr Henfyd i fathemateg bob dydd.
Os ydych chi’n helpu eraill i ddatblygu eu dysgu neu symud ymlaen tuag at eu nodau gyrfa, yna manteisiwch i’r mwyaf o’r adnodd rhad ac am ddim hwn drwy ddod yn Hyrwyddwr OpenLearn.
Mae’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn 90 munud, ar-lein neu yn bersonol a gellir ei deilwra i’ch diwydiant neu sector gwirfoddol penodol.
Darperir hyfforddiant Hyrwyddwyr OpenLearn i gefnogi dysgu oedolion, ond mae’n briodol ar gyfer cefnogi dysgwyr 13+ oed.
I gael gwybod mwy am ddod yn Hyrwyddwr OpenLearn e-bostiwch ni yn partnerships@open.ac.uk
Dysgu Cymraeg
Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu dosbarthiadau i ddysgwyr Cymraeg ar draws Bro Morgannwg am y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ystod eang o ddarpariaeth ar gael o gyrsiau i ddechreuwyr pur i hyfedredd. Ble bynnag dych ar y daith i ruglder, gadewch i ni eich helpu ar y ffordd. Mae dosbarthiadau ar gael ar draws y Fro gyda rhai dros Zoom hefyd.
Ar agor i bawb 16+ oed
Mae arian ar gael i bobl 16-25 ddysgu.
Mae arian ar gael hefyd i staff addysg.


Cyrsiau Cyfrifiadurol:
Os ydych yn chwilio am gefnogaeth i’ch helpu gyda’ch cyfrifiadur neu liniadur, gall ein Cyfeillion Digidol eich helpu.
Dysgwch sut i ddefnyddio’ch cyfrifiadur, sut i siopa ar-lein a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
I archebu lle ar un o’n cyrsiau cyfrifiadurol ffoniwch 07523 427355 neu e-bostiwch digitalbuddies23@gmail.com
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2:
Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol/gwirfoddolwyr/gweithwyr cymunedol, ac mae’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau maeth sydd eu hangen arnynt i ddod yn diwtoriaid lefel 1 neu ddefnyddio’r wybodaeth i raeadru negeseuon bwyta’n iach gyda’r bobl y maent yn eu cefnogi. Mae hwn yn gwrs 10 wythnos, ac mae ffi achredu o £20. Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys y cwrs ar https://nutritionskillsforlife.com/community-food-and-nutrition-skills-level-2/
Mae gennym gwrs yn y Fro yn dechrau ym mis Ionawr ar fore Gwener 9:30-11:30am, 19eg Ionawr – 22ain Mawrth, yn Swyddfeydd Dinesig y Barri, Heol Holton, Y Barri CF63 4RU.


Dechrau Coginio:
Mae Dechrau Coginio yn gwrs coginio 8 wythnos hwyliog ac ymarferol, sy’n addysgu dysgwyr sut i wneud ryseitiau iach, maethlon a chyfeillgar i’r gyllideb. Mae hyn yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd fel rhan o brosiect peilot yn y Barri a gall unrhyw un sydd â diddordeb atgyfeirio eu hunain trwy sganio’r cod QR ar y poster.
Cyflwyniad i Wirfoddoli
Mae’r cwrs achrededig Cyflwyniad i Wirfoddoli a gynhelir mewn partneriaeth â Chanolfan Dysgu Cymunedol Palmerston yn helpu i ddarparu’r canlynol i unigolion:
Hyder
Gwasanaeth cwsmer
Diogelu
Iechyd a Diogelwch
Mae’r cwrs nesaf yn cychwyn ar 25 Ionawr ac yn rhedeg am 3 wythnos ar ddydd Iau o 9.30 -12.30pm. I archebu ffoniwch 01446 733762 neu e-bostiwch palmerstoncentre@valeofglamorgan.gov.uk
